P-04-585  Newidiadau i gyffordd yr A494A470 yn Nolgellau

 

Manylion:

 

Yn ystod y chwe wythnos ers cwblhau’r newidiadau i gyffordd yr A494/ A470 yn Nolgellau, cafwyd tair damwain ffordd ddifrifol, lladdwyd dau, niweidiwyd dau’n ddifrifol a chafodd dau arall fân anafiadau. Mae llawer o bobl leol wedi mynegi pryder ac, o gofio bod gwyliau’r haf ar fin dechrau, ac y bydd traffig yn cynyddu yn y gyffordd hon, mae rhagor o ddigwyddiadau o’r fath yn debygol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried, fel mater o frys, newid y gyffordd hon cyn y caiff pobl eraill eu lladd neu cyn i’w bywydau newid er gwaeth.

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae’r gyffordd hon wedi peri pryder erioed, ond ers y newidiadau chwe wythnos yn ôl, mae pobl leol wedi bod yn gyndyn o’i defnyddio ac maent yn ceisio’i hosgoi os oes modd. Mae’r marwolaethau a’r anafiadau’n wastraff diangen a gellid achub bywydau pe bai system gliriach ar waith; cylchfan fechan efallai neu arwyddion ychwanegol o leiaf, yn y tymor byr..

Prif ddeisebydd:  Kathryn White

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014

Nifer y llofnodion: 1,288 llofnod a’r lein a 1,581 llofnod papur. Cyfanswm 2,869.